Amdanom
Mae CMGC yn hyrwyddo, yn cefnogi ac yn grymuso gweithredu cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion.
Ers 1997, mae Tîm CMGC wedi hyrwyddo a chefnogi gwirfoddolwyr a gweithredu cymunedol gwirfoddol yng Ngheredigion – o ddod o hyd i wirfoddolwyr eu rôl berffaith i roi grantiau ar gyfer prosiectau cymunedol, mae Tîm CMGC yma i helpu.
Fel Cyngor Gwirfoddol Sirol Ceredigion a phartner Cymorth Trydydd SectorCymru, mae CMGC yn gweithio ar draws y pedair colofn allweddol ganlynol o weithgarwch wrth gefnogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr, ac yn ein gwaith gyda phartneriaid statudol allweddol;
Gwirfoddoli
Llywodraethu Da
Ariannu Cynaliadwy
Ymgysylltu a Dylanwadu
Gallwn eich cefnogi i ddatblygu eich grŵp a’ch prosiectau a’ch helpu i recriwtio gwirfoddolwyr newydd. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy’n digwydd yng Ngheredigion a thu hwnt!
Cefnogwch ni drwy rannu eich llwyddiannau a’ch heriau fel y gallwn gynrychioli’r sector orau a hyrwyddo’r hyn rydych yn ei gyflawni.
Ein Cynnig Cymraeg
- Os byddwch yn ein ffonio neu’n ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn delio â’ch ymholiad yn Gymraeg. Os nad yw’r aelod o staff yn siarad Cymraeg, maent yn cynnig trosglwyddo’r alwad i siaradwr Cymraeg pan fo hynny’n bosibl.
- Gallwch ddarllen ein holl ddeunydd marchnata ar gyfer prosiectau yn Gymraeg gan ei fod yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog.
- Gallwch edrych ar ein gwefan a chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg gan fod ein gwefan yn ddwyieithog ac mae ein cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei bostio’n ddwyieithog.
- Mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg yn ein digwyddiadau, byddwn yn cyflwyno ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg.
- Rydym yn falch iawn bod gennym nifer o staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg ac rydym yn annog staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i ddangos i’r cyhoedd ein bod yn siarad Cymraeg gydag adnoddau Iaith Gwaith.